Uned
Dialysis Dros Dro yn agor yn Ysbyty Alltwen
Bydd uned dialysis dros dro yn agor yn Ysbyty
Alltwen ym mis Ionawr fel y cam cyntaf i ddarparu uned arennol
ymylol i wasanaethu De Gwynedd.
Ysbyty Alltwen fydd cartref yr uned dros dro tra bydd yr uned barhaol yn cael ei hadeiladu
ar y safle. Fe
fydd yr uned dros dro yn agored i gleifion o Ionawr 2010.
Mae’r
uned wrthi'n cael ei chynllunio ar hyn o bryd a bydd contractwr
yn cael ei benodi'n fuan fel bod y gwaith adeiladu yn gallu
cychwyn. Disgwylir i’r uned
fod yn barod yn hydref 2011.
Fe fydd saith safle dialysis yn yr uned dros dro o fewn prif
adeilad Ysbyty Alltwen. Dewiswyd
11 o gleifion lleol fel rhai addas ar gyfer derbyn dialysis
tair gwaith yr wythnos yn yr uned, ar ôl cael eu hasesu
gan staff meddygol.
Dim
ond cleifion sy’n weddol iach a heb gymhlethdodau fydd
yn cael eu derbyn i’r uned dros dro. Bydd
yn rhaid i gleifion eraill ddal i fynd i’r brif uned
yn Ysbyty Gwynedd nes bydd yr uned barhaol yn Ysbyty Alltwen
wedi’i gorffen.
Dywedodd Nick Wilson, Rheolwr Rhwydwaith Arennol Gogledd Cymru: “Mae
hwn yn gam pwysig at ddarparu uned ddialysis arennol lleol
i gleifion De Gwynedd ac yn ganolfan ar gyfer gofalu am gleifion
allanol cyn-dialysis a chleifion sydd wedi cael trawsblaniad. Bydd yn golygu llawer llai o deithio i
gleifion”.
Dywedodd Steve Armstrong, claf a gafodd trawsblaniad a chynrychiolydd
Cymdeithas Cleifion Arennau Cymru: “Mae’r Gymdeithas
yn falch iawn fod y prosiect yn symud ymlaen a bod gennym ateb
dros dro fel y gall rhai cleifion elwa ar unwaith tra bo’r
trefniadau i adeiladu’r uned barhaol yn cael
eu cwblhau.”
Mae’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol Cymru ar gyfer
Gwasanaethau Arennol, sy’n gosod safonau ar gyfer gofal
pobl â chlefyd yr arennau, yn nodi bod angen i gleifion
allu cael dialysis o fewn taith 30 munud o’u cartrefi.
Cyhoeddodd Edwina Hart, Gweinidog dros Iechyd fod Ysbyty Alltwen
wedi ei dewis yn dilyn proses ymgynghori gyda chleifion, gweithwyr
iechyd proffesiynol a Chynghorau Iechyd Cymuned Gogledd
Gwynedd a Meirionnydd ac mae’n ffurfio rhan bwysig o'r
cynllun i wella gwasanaethau arennol ar draws Cymru.
Dywedodd
Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd:
Mae
hwn yn gam mawr ymlaen yn ein cynlluniau i wella gwasanaethau
arennol ar draws Cymru. Mae’n hanfodol bod cleifion
arennol yn cael triniaeth dialysis yn agos at eu cartref.
“Hefyd
mae’n bwysig ein bod yn parhau i annog mwy o bobl i
fynd ar y gofrestr rhoi organau. Rydym
yn gwybod bod mwy wedi gwneud ar ôl yr ymgyrch Rhodd Cymru: Dywed wrth Rywun Agos, dan arweiniad Aren Cymru ac arian
Llywodraeth y Cynulliad. Fodd bynnag, mae angen gwneud mwy.
“Hefyd,
ar hyn o bryd rwyf yn ystyried y sylwadau a gasglwyd mewn
ymgynghoriad cyhoeddus ar y dewisiadau ynglŷn â newid
y system rhoi organau yng Nghymru. Gyda mwy o organau ar
gael, y gobaith yw y bydd mwy o gleifion dialysis arennol
yn gallu cael aren newydd ac felly na fydd angen dialysis
arnyn nhw.”
DIWEDD
Am ragor o wybodaeth
cysylltwch â:
Trystan Pritchard 01248
384938
|
Temporary Dialysis Unit to be Opened at Ysbyty Alltwen
A temporary dialysis unit will be opened at Ysbyty Alltwen
in January as the first step in providing a permanent satellite
renal unit to serve
South Gwynedd
.
The temporary unit will be housed within Ysbyty Alltwen
as an interim solution while a permanent unit is built on
the site and will be open to patients from January 2010.
The permanent unit is currently in the planning stages and
a contractor is expected to be appointed soon so that construction
work can begin. The unit is expected to be completed in the
autumn of 2011.
The temporary unit will house seven dialysis stations and will
be located within the main Ysbyty Alltwen building. Eleven
local patients have been identified as suitable for receiving
dialysis three times a week at the unit, having been assessed
by medical staff.
The temporary unit will only receive patients who are relatively
well and are without complications. Other patients will need
to continue to attend the main unit at Ysbyty Gwynedd until
the permanent Ysbyty Alltwen unit is completed.
Nick Wilson, North Wales Renal Network Manager said: “This
is an important step forward in providing a local renal dialysis
unit for patients in South Gwynedd and an out patient base
for care of other pre-dialysis and post transplant patients.
It will significantly reduce travelling times for patients”.
Steve Armstrong, transplant patient and Welsh Kidney Patient
Association representative) said: The Association is very pleased
that the project is moving ahead and that an interim solution
has been possible so that some patients can benefit immediately
whilst arrangements to construct the permanent unit are finalised.”
The Welsh Renal National Service Framework, which sets standards
for the care of people with renal disease, requires that patients
should be able to access dialysis within a 30 minute drive
time from their home.
Ysbyty Alltwen was announced as the chosen location by Health
Minister Edwina Hart following a consultation process involving
patients, healthcare professionals and Gogledd Gwynedd and
Meirionnydd Community Health Councils and forms an important
part of the planned improvement of renal services across
Wales
.
Health
Minister Edwina Hart said:
“This marks a major step forward in our plans to improve
renal services across
Wales
. It is vital kidney patients have access to dialysis treatment
close to home.
“It
is important we also continue to encourage more people to
sign up to the organ donor register. We know there has been
an increase following the Donate Wales: Tell a Loved One campaign,
which is led by Kidney Wales and funded by the Assembly Government.
However, more needs to be done.
“In
addition, I am currently considering the comments gathered
in a public consultation on options to change the organ donation
system in
Wales
. With
more donor organs available, we hope, over time, more kidney
dialysis patients will be able to receive a new kidney
and therefore not need dialysis.”
For further information please contact:
Trystan Pritchard 01248
384938
|